Mae chwarae’n helpu plant i archwilio, dysgu am eu byd a theimlo’n hapus. Hefyd, mae symud o gwmpas a chwarae’n llosgi egni ac yn helpu i atal afiechydon difrifol fel diabetes math 2, clefyd y galon a chanser pan fyddwch yn hŷn. Mae gwneud yn siŵr bod amser, lle a rhyddid i chwarae’n ffordd wych o sicrhau bod pawb yn symud o gwmpas ac yn cael hwyl!

Mae dyfodiad coronafirws wedi ein bwrw’n galed. Mae rhieni a gofalwyr yn wynebu cyfnod pryderus wrth i ysgolion a gweithgareddau fydd yn cadw’u plant yn brysur fel arfer, gael eu cau. Er gwaetha’r straen newydd yma, bydd plant yn dal eisiau ac angen chwarae. Tan i fygythiad y salwch fynd heibio, mae’n bosibl y bydd angen i chwarae ddigwydd y tu mewn yn bennaf neu os byddwch y tu allan, dylid dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar bellhau cymdeithasol.

Pwysigrwydd chwarae mewn adegau o straen

Yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, mae chwarae:

  • yn helpu i greu ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i blant yn ystod profi colled, unigrwydd a thrawma
  • yn helpu plant i oresgyn poen emosiynol ac adennill rheolaeth dros eu bywyd
  • yn eu helpu i ennill dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a’u galluogi i brofi hwyl a mwynhad
  • yn cynnig cyfle i blant archwilio eu creadigedd eu hunain.

Y canllawiau gweithgarwch corfforol

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol yn y DU. Yn 2019, fe gyhoeddon nhw wybodaeth ac argymhellion am weithgarwch corfforol, sef Canllawiau Gweithgarwch Corfforol y Prif Swyddogion Meddygol.

Mae’r Prif Swyddogion Meddygol yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plant. Mae’r canllawiau’n argymell y dylai plant gael cymaint o chwarae egnïol â phosibl.

Mae’r canllawiau’n dweud: ‘argymhellir i blant fod yn egnïol am 60 munud y dydd, ar gyfartaledd, ar draws yr wythnos.’

Y neges gyffredinol yw bod unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth.

Chwarae egnïol

Mae chwarae egnïol yn weithgarwch corfforol gyda phlyciau rheolaidd o symud tempo arferol i egnïol, fel cropian, neidio, neu redeg. Mae chwarae egnïol yn cynyddu curiad calon plentyn ac yn gwneud iddyn nhw ‘chwythu a phwffian’.

Mae bywyd modern wedi gwneud pethau yn gyfforddus i ni ac mae llawer ohonom yn treulio llawer o amser yn bod yn segur adref ac yn y gwaith - ’dyw hyn ddim yn llosgi’r egni yr ydym yn ei fwyta. Mae’r cyfrifoldeb ychwanegol o bellhau neu ynysu cymdeithasol yn golygu ein bod bellach yn cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau eisteddog a llai egnïol.

Yn ystod y cyfnod newidiol a heriol hwn, mae’n bwysig inni neilltuo amser yn ystod y dydd i symud o gwmpas. Mae hyn yn dda ar gyfer ein lles meddyliol yn ogystal â’n lles corfforol.

Canllawiau ar gyfer y blynyddoedd cynnar (geni i bump oed)

Babanod (iau na blwydd oed):

  • Fe ddylen nhw fod yn gorfforol egnïol nifer o weithiau’r dydd mewn llawer o ffyrdd, yn cynnwys gweithgarwch rhyngweithiol ar lawr, fel cropian.
  • Dylai babis gael o leiaf 30 munud o amser bol wedi ei wasgaru trwy’r dydd pan maen nhw’n effro. Fe ddylen nhw hefyd gael cyfleoedd i ymestyn a gafael, gwthio a thynnu eu hunain i fyny’n annibynnol a rholio drosodd.

Plant bach (1-2 oed):

  • Dylai plant bach dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored, wedi ei wasgaru trwy’r dydd.

Plant dan oed ysgol (3-4 oed):

  • Dylai plant dan oed ysgol dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol wedi eu gwasgaru trwy’r dydd, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored. Mae mwy yn well a dylai o leiaf 60 munud fod yn weithgarwch corfforol lefel arferol i egnïol.

Plant hŷn (5-18 oed)

Mae’r canllawiau gweithgarwch corfforol ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau rhwng 5 a 18 oed yn argymell:

  • Y dylai plant gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol arferol i egnïol am 60 munud y dydd. Gall y gweithgareddau hyn gael eu rhannu ar draws y diwrnod.

Dylai gweithgarwch corfforol arferol wneud i blant deimlo’n fwy cynnes ac anadlu’n drymach, fel:

o   cerdded yn gyflym

o   mynd ar gefn beic

o   dawnsio

o   gwisgo esgidiau rholio

o   gweithgareddau cae chwarae.

Bydd gweithgareddau egnïol yn gwneud siarad yn anoddach ac maent yn cynnwys:

o   rhedeg yn gyflym

o   chwarae tic

o   sgipio.

    • Y dylai plant hefyd gymryd rhan mewn rhywfaint o weithgareddau sy’n datblygu sgiliau symud a chryfder y cyhyrau a’r esgyrn trwy gydol yr wythnos. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys sboncio, sgipio a siglo ar offer maes chwarae gan ddefnyddio pwysau eu corff neu wthio’n erbyn rhywbeth i greu gwrthiant.
    • Ni ddylai plant dreulio cyfnodau hir yn eistedd yn llonydd neu ddim yn symud. Mae angen i oedolion helpu plant a phlant yn eu harddegau i dreulio llai o amser yn gwneud pethau fel amser sgrîn (yn gwylio’r teledu, defnyddio cyfrifiadur, chwarae gemau fideo), yn eistedd i ddarllen, siarad, gwneud gwaith cartref, neu wrando ar gerddoriaeth.

    Sicrhau bod plant yn cadw’n egnïol wrth inni ofyn iddyn nhw bellhau’n gymdeithasol

    Mae pellhau cymdeithasol yn mynnu y dylai pawb - yn blant ac oedolion - gadw chwe throedfedd (dau fetr) ar wahân bob amser. Felly, mae mynd allan yn dal yn bosibl. Y cyfan sydd rhaid ei wneud yw meddwl am fannau ble mae’n haws cadw’r pellter angenrheidiol oddi wrth bobl eraill. Mae’r canllawiau presennol yn dweud y gallwn fynd am dro trwy’r gymdogaeth, seiclo neu fynd ar sgwter. Mae’n anodd iawn i blant reoli eu pellter pan maen nhw’n chwarae, yn enwedig pan maen nhw wedi ymgolli mewn gweithgarwch chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen ein help gyda hyn. Cofiwch, mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth.

    Am syniadau ymarferol ar gyfer chwarae tra’n pellhau’n gymdeithasol, cer at Syniadau chwarae ar gyfer rhieni