Mae chwarae – tu mewn a thu allan – yn dda i blant ac mae’n hwyl. Ond, gan ein bod ni gyd yn gorfod treulio mwy o amser yn ein cartrefi gall fod yn anoddach na’r arfer i chwarae tu allan. Paid a phoeni, mae digonedd o ffyrdd hwyliog ar gyfer chwarae yn ac o amgylch y cartref er mwyn cadw’r plant yn hapus a diddan.

35 syniad gorau ar gyfer chwarae adref

  1. Actio stori allan o lyfr, fel Hwyl yn y Dwnjwn
  2. Addurno canhwyllau
  3. Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast!
  4. Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) - gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen
  5. Cadeiriau cerddorol
  6. Carreg / papur / siswrn
  7. Cerrig sarn gyda chlustogau
  8. Chwarae cuddio
  9. Chwarae llif draws (Cat’s cradle)
  10. Chwarae Sgots (Hopscotch) - creu’r grid gyda thâp ar lawr
  11. Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt
  12. Creu awyrennau papur
  13. Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach
  14. Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord
  15. Creu cuddfannau
  16. Creu perfformiad
  17. Cwrs rhwystrau - gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau,
  18. Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll)
  19. Disgo yn y gegin
  20. Drymiau sosbannau
  21. Gemau clapio
  22. Gwisgo i fyny
  23. Helfa drysor 
  24. Mae’r llawr yn lafa
  25. Mi welaf i, â’m llygad bach i…
  26. Modelu jync gydag eitemau tŷ heb fod yn rhy fawr
  27. Ping-pong neu bêl foli gyda balŵn
  28. Pypedau sanau
  29. Rasys ‘ŵy’ ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn)
  30. Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig)
  31. ‘Simon says’
  32. Sioe ffasiynau
  33. Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion
  34. Te parti / picnic dan do
  35. Tynnu lluniau a lliwio i mewn.

Sawl un all eich teulu chi ei wneud?

I gyfri faint mae dy deulu wedi ei gwblhau lawrlwytha ac argraffa ein rhestr