Cymunedau chwareus Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae Ymgyrchu dros chwarae yn dy ardal leol Efallai dy fod eisiau mwy o gyfleoedd - neu gyfleoedd gwell - i blant chwarae yn dy ardal leol, er enghraifft: Creu gofodau chwarae newydd ar gyfer pob plentyn Adnewyddu neu wella gofodau chwarae sy’n bodoli eisoes Cyflwyno camau tawelu traffig Cau strydoedd er mwyn caniatáu i blant chwarae arnynt Tynnu arwyddion ‘dim gemau peli’ i lawr Perswadio perchnogion cŵn i gymryd mwy o gyfrifoldeb am faw cŵn Newid agweddau oedolion tuag at weld plant a phlant yn eu harddegau’n chwarae allan yn y gymuned Cadw parc neu wasanaeth chwarae’n agored. Sut i ymgyrchu dros chwarae Waeth os wyt ti am wella’r cyfleoedd chwarae’n lleol ar gyfer dy blentyn dy hun neu ar gyfer pob plentyn lleol, mae llawer o wahanol ffyrdd y galli ymgyrchu. Gallai’r rhain gynnwys ymgyrchoedd yn y cyfryngau, cyfarfodydd, ymchwilio a chynnal arolygon. Bydd rhai materion yn gyflym a rhwydd i ddelio â nhw, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser ac yn galw am ddyfalbarhad. Cynllunio Bydd angen i bob ymgyrch gychwyn gyda chynllun. Dyma’r pethau y dylet feddwl amdanynt: Beth wyt ti’n gobeithio ei newid neu ei wella? Alli di grynhoi hyn mewn brawddeg fer, eglur? Er enghraifft: ’Dyw fy merch ddim yn gallu chwarae gyda’i ffrindiau oherwydd tydi fy ardal chwarae leol ddim yn hygyrch i gadair olwyn. Rydyn ni angen man chwarae cynhwysol. Allwn ni ddim gadael i’n plant chwarae yn y parc oherwydd bod baw cŵn ym mhobman. Berchnogion cŵn: rydyn ni angen ichi glirio ar ôl eich cŵn. Pwy sydd angen iti eu perswadio i wneud rhywbeth yn wahanol? Pwy sydd â’r cyfrifoldeb a’r awdurdod i wneud y newid yr wyt yn gobeithio amdano? Mae’n bosibl y bydd yn fwy nag un person neu grŵp, er enghraifft: Y gymuned leol Perchnogion cŵn Tirfeddiannwr Cymdeithas dai Cynghorwyr lleol Sylfaenydd prosiect. Beth wnaiff ddylanwadu ar eu penderfyniad? Caiff pobl eu dylanwadu gan wahanol bethau, felly meddylia am dy fater penodol di o’u safbwynt nhw. Beth wnaiff eu perswadio i ddod i’r penderfyniad yr wyt ti’n gobeithio amdano? Er enghraifft: Tystiolaeth yn cynnwys straeon personol, a ffeithiau a ffigurau Cyhoeddusrwydd (da neu ddrwg) Cyfle i deimlo neu edrych yn dda Cyfle i wneud y peth iawn Cyfle i wneud rhywbeth y maen nhw’n credu ynddo eisoes? Sut wyt ti am dynnu eu sylw nhw at yr hyn sydd angen ei newid neu ei wella? Dylet greu dwy restr: Y pethau yr wyt eu hangen i ddadlau dy achos. Er enghraifft: cynnal cyfarfodydd ysgrifennu llythyrau cynnal digwyddiadau defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gweithio gyda’r cyfryngau. Y bobl allai dy helpu. Er enghraifft: papurau newydd a chylchgronau lleol elusennau neu fudiadau gwirfoddol lleol sydd â diddordebau tebyg aelodau o’r cyhoedd gwleidyddion lleol pwysigion a sêr lleol. Dysga fwy am sut y galli ymgyrchu dros chwarae plant yn dy gymuned leol.