Dechrau trwy feddwl am yr holl ffyrdd posibl y galli gyfleu dy neges. Bydd yn greadigol ac yn llawn dychymyg - bydd hyn yn dy helpu i ddenu sylw’r cyfryngau a’r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau.

Meddwl sut y gallet gynnwys dy blentyn neu blant lleol eraill a phlant yn eu harddegau yn dy waith cynllunio a gweithredu. Dysga fwy am gynnwys plant a phlant yn eu harddegau.

Pethau y gallet eu gwneud

  • Cynnal cyfarfod cyhoeddus i weld pwy sydd â diddordeb yn y mater
  • Ysgrifennu llythyrau at y bobl y bydd angen iti ddylanwadu arnyn nhw
  • Gofyn am gyfarfod wyneb-yn-wyneb gyda’r person neu’r grŵp yr wyt am ddylanwadu arnyn nhw
  • Ysgrifennu at Dudalen Lythyrau dy bapur newydd lleol
  • Trefnu digwyddiad i dynnu sylw at y mater mewn ffordd gadarnhaol - er enghraifft, diwrnod chwarae yn y parc neu gystadleuaeth tynnu lluniau ar y palmant
  • Creu cyfle tynnu lluniau er mwyn cael delweddau trawiadol y gellir eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, y teledu ac mewn papurau newydd (cofia ofyn am ganiatâd rhieni cyn tynnu lluniau o’r plant)
  • Ysgrifennu datganiad i’r wasg i ddal sylw’r cyfryngau lleol
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i amlygu dy neges a chyflwyno dy achos
  • Gweithio gyda phartner yn y cyfryngau - fel papur newydd lleol - er mwyn cadw sylw ar dy fater
  • Cynnwys dy gynghorydd lleol (gweler isod).

Sut i flaenoriaethu dy gamau gweithredu

Mae angen iti feddwl pa gamau gweithredu fydd rwyddaf i’w cyflawni a pha rai fydd fwyaf effeithiol. Meddwl am bedwar peth:

  • Pa mor hawdd fydd pob cam gweithredu i’w drefnu
  • Faint fydd o’n costio
  • Pa adnoddau fyddi di eu hangen
  • Pa mor effeithiol wyt ti’n credu fydd hyn.

Lawrlwytho cynllun gweithredu

Sut i gynnwys dy gynghorydd lleol

Mae dy gynghorydd lleol yn gyfrifol am chwarae plant, felly dylai fod â diddordeb yn y mater. Mae’n syniad da i gwrdd gyda nhw’n gynnar yn yr ymgyrch i:

  • sicrhau eu cefnogaeth
  • dysgu sut y gallan nhw helpu
  • rhoi gwybod iddyn nhw beth fyddi di angen iddyn nhw ei wneud.

Chwilio am dy gynghorydd lleol