Cymunedau chwareus Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae Cynnwys plant a phlant yn eu harddegau yn dy ymgyrch chwarae Os wyt ti’n ymgyrchu dros rywbeth sy’n effeithio ar blant a phlant yn eu harddegau - fel chwarae - fe ddylen nhw gael cyfle i gael eu cynnwys yn iawn. Mae gan blant a phlant yn eu harddegau hawl i gael eu clywed Mae gan blant a phlant yn eu harddegau hawl i fynegi eu barn ar bethau sy’n ymwneud â nhw. Weithiau, mae’n bosibl y byddan nhw angen ein cymorth ni i’w helpu i wneud hyn. Gallai hyn gynnwys: rhoi anogaeth defnyddio llawer o ffyrdd gweledol a chelfyddydol i’w helpu i fynegi eu barn croesawu syniadau creadigol gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael mewn fformat ymarferol- er enghraifft, mewn Cymraeg plaen, ieithoedd y gymuned, ffontiau darllenadwy i bobl ddyslecsig, defnyddio delweddau yn ogystal â thestun gwneud yr amgylchedd ffisegol yn gyfforddus a chroesawus gwneud yn siŵr bod y modd y byddwch yn helpu’n briodol ar gyfer eu hoedran a’u gallu gwneud pethau ar amser addas darparu cymorth ymarferol, fel cludiant neu docyn bws. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud ei bod yn bwysig bod plant a phlant yn eu harddegau’n cael cyfle i fod yn rhan o ddatblygu cynlluniau ar gyfer chwarae a dylunio gwasanaethau chwarae. Gallai hyn gynnwys: polisïau ar chwarae dylunio cymunedau ac amgylcheddau plant-gyfeillgar parciau a chyfleusterau lleol eraill cynllunio trefi a dinasoedd deddfau ar addysg, ysgolion a’r cwricwlwm deddfau ar waith plant. Argymhellion anhygoel ar gyfer cynnwys plant a phlant yn eu harddegau Cofiwch gynnwys plant a phlant yn eu harddegau o’r cychwyn cyntaf. Gwrandewch ar eu safbwyntiau a’u syniadau. Cofiwch na fydd gan bob un ohonynt yr un safbwyntiau. Rhowch ddigon o wybodaeth ac amser iddyn nhw ddewis os ydyn nhw am gymryd rhan. Meddyliwch am wahanol ffyrdd y gall y plant chwarae rhan. Gwnewch y broses yn ddiogel - cofia wneud yn siŵr dy fod yn croesawu gwahanol safbwyntiau a gwahanol ffyrdd o fynegi eich hun. Cofiwch greu cytundeb ar faterion fel cyfrinachedd a pharchu eich gilydd. Ceisia ei wneud yn hwyl - ’does dim angen iddyn nhw gael eu cynnwys mewn cyfarfodydd hir a diflas. Cofia wneud yn siŵr ei bod yn bosibl i bob plentyn allai fod â diddordeb i ymuno yn yr ymgyrch. Cofia ddarparu gwybodaeth sy’n glir ac sy’n ystyried eu hoedran a’u gallu. Gwna’r mwyaf o’u brwdfrydedd, egni a chreadigedd. Cofia eu diweddaru am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn y byddwch yn ei gyflawni. Cofia ofyn am ganiatâd cyn defnyddio eu geiriau, eu delweddau neu eu lluniau - hyd yn oed os yw eu rhieni wedi rhoi caniatâd eisoes. Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Yng Nghymru mae gennym saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc. Galli eu defnyddio i sicrhau bod plant a phlant yn eu harddegau’n cael y profiad gorau posibl. Darllen y Safonau Cyfranogiad