Mae gan bob plentyn hawl i chwarae. Mae hyn yn cael ei gydnabod ar draws y byd i gyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant a phlant yn eu harddegau (dan 18 oed), yn cynnwys yr hawl i chwarae.

Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn ble bynnag y bo – adref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol. 

Mae hawliau eraill plant yn cynnwys:

  • yr hawl i ddweud eu dweud a chael gwrandawiad
  • yr hawl i gwrdd â ffrindiau ac i ymuno â grwpiau a chlybiau
  • yr hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol.

Mae’r confensiwn hwn berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau, waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maen nhw’n ei gredu. Felly, fel rhieni a gofalwyr, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael lle, amser a chwmni eraill i chwarae.

Adnoddau hawl i chwarae

Gall y posteri gwybodaeth hyn helpu dy blentyn i ddysgu am eu hawl i chwarae. Gellir eu hargraffu a’u rhannu gyda phlant eraill a gydag oedolion hefyd - maen nhw’n wych ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae.

Lawrlwytho cerdyn post hawl i chwarae

Lawrlwytho hawl i chwarae - i liwio

Lawrlwytho poster A4 Hawl i chwarae

Lawrlwytho poster A3 Hawl i chwarae

Os yw dy blentyn am wybod mwy am eu hawl i chwarae, a’u hawliau eraill, mae mwy o wybodaeth i’w gael ar y gwefannau canlynol: