Mae plant yn chwarae mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gall chwarae fod yn dawel, yn swnllyd, yn greadigol, yn ddychmygol, yn gymdeithasol, yn unig, yn ddigynnwrf neu’n ddi-drefn. Mae’r ffyrdd y bydd plant yn chwarae’n newid ar wahanol adegau a chyfnodau o’u bywydau. Mae pethau eraill yn newid eu chwarae hefyd - er enghraifft, gyda phwy y maen nhw’n chwarae, pa fath o bethau sydd ganddyn nhw o’u hamgylch, ble y maen nhw’n chwarae, a sut y maen nhw’n teimlo’r diwrnod hwnnw.

Mae gwahanol fathau o chwarae’n wych ar gyfer datblygiad dy blentyn

Mae chwarae’n cefnogi pob elfen o ddatblygiad dy blentyn. Mae chwarae mewn gwahanol ffyrdd yn dda ar gyfer iechyd, dysg, perthnasau a mwynhad dy blentyn o’u bywyd. Fyddi di ddim yn gallu dweud pa fuddiannau y mae dy blentyn yn ei gael o’i chwarae bob amser, felly mae’n beth da i’w helpu i chwarae mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Meddwl os yw dy blentyn yn cael cyfle i chwarae mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Yw dy blentyn yn cael cyfle i chwarae y tu mewn a’r tu allan? Ydyn nhw’n cael cyfleoedd i chwarae gydag amrywiaeth eang o stwff? Allan nhw chwarae gyda phlant o wahanol oedrannau, diwylliannau a chefndiroedd?

Mae chwarae’n cynnwys llawer o wahanol bethau

Gall chwarae plant gynnwys siarad, creu pethau, gemau chwarae gwyllt, chwarae ymladd, chwarae rôl, a bod yn gymdeithasol, dramatig, gwirion neu ddifrifol. Gall ddefnyddio dychymyg, ffantasi, creadigrwydd, iaith a rhifau.

Mae teimlo bod chwarae’n dderbyniol yn helpu plant i chwarae

Bydd plant yn sylweddoli’n fuan iawn os yw oedolion yn derbyn yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Os yw dy blentyn yn teimlo eu bod yn cael chwarae heb gael eu barnu, maen nhw’n fwy tebygol o deimlo’n abl i wir fwynhau eu gemau.

Rhai o’r ffyrdd y bydd plant yn chwarae

Chwarae sy’n archwilio’r byd ffisegol

Efallai y sylwi ar dy blentyn yn chwarae’n greadigol, yn archwilio gwrthrychau a deunyddiau. Efallai y byddan nhw’n profi’r hyn y gallan nhw ei wneud i bethau yn yr amgylchedd, er enghraifft, adeiladu ffos neu godi argae mewn nant. 

Chwarae sy’n archwilio rolau a pherthnasau

Mae llawer o chwarae plant yn ymwneud â’u perthnasau gyda phobl eraill, a’r pethau y maent wedi eu gweld neu eu profi. Bydd y math yma o chwarae cymdeithasol a chyfathrebu’n newid ar wahanol oedrannau a chyfnodau - o dy blentyn yn clebran a chwerthin ar wyneb doniol, i dy blentyn yn chwarae bod yn siopwr neu’n athrawes, neu’n perfformio sioe y mae wedi ei chreu.

Chwarae sy’n egnïol a chorfforol

Mae chwarae corfforol egnïol yn cynnwys pethau fel chwarae cwrso, rhedeg, neidio, sgipio a dringo coed. Mae’n bwysig i iechyd dy blentyn dy fod yn rhoi digonedd o gyfleoedd iddyn nhw chwarae’n egnïol, yn enwedig y tu allan. Mae mathau eraill o chwarae egnïol yn cynnwys gemau gwyllt gwahanol fel chwarae ymladd, twmblo, cosi, a chwarae sy’n gynnwys cyswllt corfforol ond dim anafu bwriadol. Mae gemau gwyllt yn bwysig ar gyfer creu ymddiriedaeth, cysylltiadau a pherthnasau hefyd.

Chwarae sy’n archwilio gwahanol agweddau bod yn fod dynol

Efallai y bydd dy blentyn yn chwarae gemau sy’n archwilio’r hyn y maen ei olygu i fod yn fod dynol, neu all ymddangos fel eu bod yn gysylltiedig â’r gorffennol - mae’r rhain yn cynnwys defodau, hela, dyfeisio ieithoedd, neu greu cleddyfau a saethau.

Chwarae sy’n profi’r ffiniau

Efallai y bydd chwarae dy blentyn yn cynnwys cymryd risg a phrofi eu terfynau - er enghraifft, neidio dros nant neu fynd ar gefn beic heb ddefnyddio eu dwylo. Neu efallai y byddan nhw’n chwarae bod ganddyn nhw alluoedd arch-arwyr a doniau arbennig fel gallu hedfan neu fod â golwg pelydr-x.