Chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau Mae chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau’n chwarae sy’n dangos i blant a phlant yn eu harddegau: ei bod hi’n iawn iddyn nhw chwarae sut bynnag y maen nhw eisiau, heb deimlo eu bod yn cael eu cyfyngu gan eu rhyw nad ydyn ni - yr oedolion o’u hamgylch - yn ceisio pasio ymlaen unrhyw syniadau pendant am sut y dylai bechgyn neu ferched chwarae. Mae syniadau plant am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fachgen neu’n ferch yn dechrau datblygu pan maen nhw’n ifanc iawn. Maen nhw’n cael y syniadau hyn o bob math o leoedd a gan wahanol bobl. Mae rhai syniadau’n dangos i dy blentyn y gall fod yn pwy bynnag y mae am fod, ac y gallant wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu diddordebau a swyddi. Ond gall syniadau eraill gyfyngu ar eu disgwyliadau o’u hunain ac o blant eraill. Er enghraifft, efallai y bydd llyfrau stori yn dangos i fechgyn y dylen nhw fod yn ddewr, a bod dim angen iddyn nhw falio am deimladau pobl eraill. Neu efallai y byddan nhw’n dangos i ferched ei bod hi’n bwysicach i fod yn dlws na bod yn glyfar neu gymryd yr awenau. Ble fydd plant a phlant yn eu harddegau’n codi syniadau? Mae sut y bydd pobl yn ymddwyn tuag at blant a phlant yn eu harddegau - a sut y maent yn ymddwyn tuag at ei gilydd - yn ddylanwad mawr arnyn nhw. Maent hefyd yn codi syniadau o: ffilmiau, y teledu a’r rhyngrwyd llyfrau teganau a gemau dillad hysbysebion. Pam fod chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau yn bwysig? Mae rhoi rhyddid i’r rhywiau’n helpu plant a phlant yn eu harddegau i: deimlo’n iawn am bwy ydyn nhw a phwy y maen nhw am fod datblygu iechyd meddwl, hunan-barch a delwedd gorfforol gadarnhaol deall am berthnasau cyfartal a llawn parch rhwng pobl. Ffyrdd syml i wneud yn siŵr bod chwarae’n rhoi rhyddid i’r rhywiau Beth alli di ei wneud Dangos dy fod yn meddwl ei bod hi’n iawn i dy blentyn chwarae gyda theganau neu gemau y gellid ystyried eu bod ‘ar gyfer bechgyn’ neu ‘ar gyfer merched’ - er enghraifft, pêl-droed neu bramiau doliau. Rhoi gwybod i dy blentyn y bydd pawb yn teimlo gwahanol emosiynau, os ydyn nhw’n fachgen neu’n ferch - mae’n iawn i fechgyn fod yn ofnus, yn garedig, yn angerddol neu emosiynol ac i ferched fod yn danllyd, gofalgar, anturus a phenderfynol. Gwneud yn siŵr bod gennyt amrywiaeth dda o bethau i chwarae efo nhw. Galli newid yr hyn sydd gennyt i chwarae efo nhw’n raddol trwy ddod o hyd i bethau gwahanol yn dy gartref, neu trwy gael pethau o siopau elusen, llyfrgelloedd neu lyfrgelloedd teganau. Dyma rai syniadau: Mae rhannau rhydd – deunyddiau bob dydd fel jync a bocsys cardbord – yn gadael i blant chwarae fel y mynnant. Mae hen ddillad, ymarferol yn helpu dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau i deimlo y gall ddringo, rhedeg o gwmpas a baeddu. Mae dillad gwisgo i fyny fel hen siacedi, hetiau, sgarffiau, hen gynfasau gwely neu lenni yn gadael i dy blentyn neu dy blentyn yn ei arddegau ddefnyddio eu dychymyg. Mae llyfrau gyda phrif gymeriadau gwych, yn fechgyn a merched, yn helpu dy blentyn i weld y gall pobl fodoli mewn amryw o ffyrdd. Beth alli di ei ddweud Canmol dy blentyn am yr hyn y mae wedi ei wneud neu ei greu, nid dim ond am sut y mae’n edrych. Dwed ‘Dwi’n hoffi sut wyt ti’n neidio / tynnu llun / dy agwedd di’ yn hytrach na dweud pethau fel ‘Dwi’n hoffi dy wallt/dy esgidiau/dy gwrteisi’. Defnyddia’r iaith ddiweddaraf, er enghraifft, swyddogion tân a swyddogion yr heddlu yn lle dyn tân a heddwas. Beth alli di ei wneud am bethau y bydd pobl eraill yn eu dweud a’u gwneud Weithiau, bydd pobl yn dweud pethau sy’n cyfyngu ar ymddygiad neu deimladau bechgyn a merched. Er enghraifft, ‘ti’n taflu fel merch’ neu ‘crïo fel hogan fach’ neu ‘tydi bechgyn ddim yn gwisgo fel yna’. Meddylia beth allet ti ei ddweud pan glywi di bethau fel hyn - mewn modd fydd yn agor sgwrs heb wneud i unrhyw un deimlo’n wael. Er enghraifft, ‘Sgwn i pam ein bod yn dweud pethau fel yna?’ neu ‘Rwy’n clywed fy hun yn dweud hynna hefyd ond wedyn rwy’n cofio ’dyw e ddim i wneud gyda bod yn fachgen neu’n ferch.’ Efallai bod gennyt ffrindiau neu berthnasau sydd wrth eu bodd yn rhoi pethau pinc gloyw i dy ferch neu bethau archarwyr i dy fab! Ceisia siarad gyda dy berthnasau a dy ffrindiau cyn unrhyw ben-blwydd, ac achlysuron eraill ble y gallent roi anrhegion, ac egluro sut yr wyt yn ceisio bod yn niwtral o ran y rhywiau.