Cynnwys pobl eraill yn dy brosiect ardal chwarae

Bydd datblygu ardal chwarae’n rhoi llawer o gyfleoedd i bobl gyfrannu sgiliau, amser a syniadau. Byddem yn argymell y dylet gynnwys swyddogion o’r cyngor, mudiadau a grwpiau cymunedol lleol, plant a phlant yn eu harddegau - a gwneud yn siŵr dy fod yn cynnwys plant anabl, y gymuned leol a thrigolion lleol, hefyd.

Creu cynllun prosiect

Mae cynllun prosiect yn offeryn defnyddiol fydd yn dy helpu i gadw dy brosiect ar y trywydd cywir. Ysgrifenna brif nodau dy brosiect, y tasgau, llinell amser a’r cyfrifoldebau perthnasol. Mae’n syniad da i ddarllen trwy’r cynllun yn rheolaidd er mwyn:

  • gweld faint o gynnydd sydd wedi ei wneud
  • gwneud nodyn o unrhyw newidiadau i’r prosiect
  • gwneud yn siŵr dy fod wedi cofio popeth.

Creu brîff dylunio

Mae brîff dylunio’n dangos dy brif obeithion a syniadau ar gyfer yr ardal chwarae. Bydd hwn yn ganllaw ar gyfer y bobl fydd yn dylunio’r ardal chwarae. Galli gynnwys syniadau a barn y bobl sy’n rhan o’r prosiect, a’r wybodaeth yr wyt wedi ei gasglu am y lleoliad. Bydd brîff dylunio’n dy helpu di a dy ddylunydd i ddatblygu dealltwriaeth glir o dy brosiect.

Ysgrifennu cynllun cyfathrebu

Mae cynllun cyfathrebu’n ffordd o ddweud dy stori fel bod pobl eraill yn deall dy brosiect ac eisiau ei gefnogi. Bydd yn dy helpu i fod yn glir am yr hyn yr wyt am ei ddweud, wrth bwy yr wyt angen dweud hyn, a’r ffordd fwyaf effeithiol o’i ddweud. Mae llawer o wahanol ffyrdd i ddweud dy stori - yn cynnwys cysylltiadau personol gyda’r gymuned leol, posteri a thaflenni, cylchlythyrau, y cyfryngau cymdeithasol, fideos a datganiadau i’r wasg.

Creu cynllun cynnal a chadw

Mae gofal a gwaith cynnal a chadw parhaus yn allweddol ar gyfer llwyddiant ardal chwarae. Dylai’r dyluniad ar gyfer dy ardal chwarae gynnwys manylion sut y bydd angen gofalu amdano a’i gynnal a’i gadw. Ceisia anelu am waith cynnal a chadw di-dechnoleg, fydd yn hawdd i’w reoli. Cofia y bydd angen i bwy bynnag sy’n gyfrifol am yr ardal chwarae gadw cofnodion gwaith cynnal a chadw, archwiliadau a gwaith atgyweirio.

Paratoi cynllun codi arian

Mae’n debyg y bydd ariannu’n dod o nifer o wahanol ffynonellau, yn cynnwys arianwyr mawr cenedlaethol, ymddiriedolaethau, busnesau a chyfraniadau unigol - i gyd o ganlyniad i dy weithgareddau codi arian. Gall cynllun codi arian dy helpu i weithio allan sut y galli gyrraedd dy darged a sut i ddefnyddio dy amser ac egni’n fwyaf effeithlon.

Gallai fod yn ddefnyddiol iti rannu dy gynllun yn gamau llai sy’n haws i’w cyflawni. Dechreua gyda’r cam symlaf ac ychwanegu at yr ardal chwarae pan fo arian yn caniatáu. Cofia y byddi hefyd angen ariannu i dalu am gostau cynnal a chadw’r ardal chwarae.

Am wybod mwy?

Am fwy o wybodaeth ar ddatblygu ardal chwarae, darllen ein cyhoeddiad, Datblygu a rheoli mannau chwarae – pecyn cymorth cymunedol