Lleoliad dy ardal chwarae

Bydd angen iti ystyried manteision ac anfanteision y lleoliad sydd gennyt mewn golwg. Ydi o’n le hawdd i gyrraedd ato, ac ydi o’n ddiogel ac yn addas ar gyfer chwarae? Ydi o’n cynnwys nodweddion sy’n dda ar gyfer chwarae, er enghraifft coed aeddfed, bryniau a llethrau? Sut mae’r lleoliad ar wahanol adegau o’r flwyddyn ac mewn gwahanol dywydd? Pwy sy’n berchen arno? A oes unrhyw gynlluniau eraill ar ei gyfer eisoes? A oes unrhyw gyfyngiadau ar ei ddatblygu?

Y ‘gwerth chwarae’

Rydym yn defnyddio’r term ‘gwerth chwarae’ i ddisgrifio amrywiaeth a safon y cyfleoedd chwarae y bydd plant yn eu cael o ardal chwarae. Mae gofod chwarae sydd â llawer o werth chwarae’n cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd chwarae - corfforol, cymdeithasol a synhwyrol. Gellir cynyddu gwerth chwarae posibl ardal trwy feddwl am bethau fel natur, y synhwyrau, yr elfennau, offer a deunyddiau chwarae.

  • Natur

    Yn aml, caiff pobl sy’n dylunio ardaloedd chwarae eu hysbrydoli gan ardaloedd naturiol fel traethau, coedydd a mannau gwyllt. Mae’r rhain yn cynnig posibiliadau ar gyfer rhyddid, dewis, hwyl, antur, yr annisgwyl a darganfod, y mae pob un ohonynt yn bwysig ar gyfer chwarae.

    Galli hefyd gynnwys nodweddion naturiol mewn ardal chwarae - er enghraifft, twmpathau glaswelltog, planhigion, cerrig crynion, ffosydd dŵr, coed a phyllau naturiol. 

  •  Y synhwyrau

    Mae natur yn rhoi llawer o gyfleoedd amrywiol a newidiol i ddefnyddio ein synhwyrau. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

    • arogl blodau
    • teimlad gwahanol ddail
    • sŵn adar a phryfed
    • blas perlysiau
    • diddordeb gweledol gwahanol liwiau.

    Bydd chware gyda phethau rhydd fel tywod a rhisgl, a cherdded neu redeg dros wahanol arwynebau fel llwybrau llyfn neu grensiog yn defnyddio ein synhwyrau. Mae gwaith celf, cerfluniau, teganau fel rhubanau, ac offer chwarae fel nodweddion chwarae â dŵr yn apelio i’n synhwyrau hefyd.

  • Yr elfennau – pridd, dŵr, tân ac awyr

    Mae ardaloedd naturiol yn rhoi cyfleoedd hefyd i blant ryngweithio gyda’r elfennau gan gysylltu â’r tywydd, y tymhorau a’r ddaear. Gellir gofyn i’r dylunydd gynnwys cyswllt gyda’r elfennau fel rhan o’u dyluniad. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys :

    • ardaloedd mwdlyd i dyllu ynddyn nhw
    • nentydd a chyrsiau dŵr
    • pyllau naturiol
    • ardaloedd tân gwersyll
    • strwythurau uchel.

  • Offer

    Pan fyddwn ni’n meddwl am ardaloedd chwarae, yn aml byddwn yn meddwl am offer chwarae fel llithrennau a siglenni. Ond, dim ond un rhan o ardal chwarae lwyddiannus yw’r offer. Mae’n bwysig cyfuno offer chwarae gyda nodweddion eraill yn yr ardal chwarae.

    Dylid dewis offer chwarae sy’n cynnig profiadau y gall y plant eu rhannu. Ceisia wneud yn siŵr ei fod yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw chwarae gyda phlant sydd â gwahanol alluoedd.

  • Deunyddiau chwarae

    I wneud y gorau o ardal chwarae, mae angen i’r plant allu ei addasu a’i siapio fel ei fod yn gweddu i sut y maent am chwarae. Mae angen iddyn nhw allu ei newid dros amser a dod o hyd i gyfleoedd newydd i chwarae. Mae deunyddiau chwarae’n bethau y gall y plant eu symud o gwmpas, eu haddasu, eu hadeiladu, eu chwalu a’u cymysgu. Mae coed, planhigion ac arwynebau wedi eu gorchuddio â stwff rhydd fel tywod neu risgl yn darparu cyflenwad o rannau rhydd fydd yn newid gyda’r tymhorau.

Mynediad a chynhwysiant

Mae ardaloedd chwarae sy’n gweithio’n dda ar gyfer plant anabl yn well hefyd i’r mwyafrif o blant a’r gymuned ehangach i chwarae ynddyn nhw. Mae ardaloedd hygyrch a chynhwysol yn gwneud yn siŵr y gall pawb fynd i mewn ac allan o’r ardal chwarae, symud o’i hamgylch, a chyrraedd at y nodweddion neu’r cyfleoedd chwarae. Yn ogystal, mae ardaloedd hygyrch a chynhwysol yn gwneud yn siŵr bod gan y plant ddewis ac y gallan nhw chwarae yn eu ffordd eu hunain.

Cyfleusterau

Gall ardaloedd chware gynnwys nodweddion ychwanegol fel seddi, byrddau picnic, parcio a thoiledau hygyrch. Cofia bod toiledau a chyfleusterau newid addas yn arbennig o bwysig i deuluoedd sydd â phlant anabl. Bydd rhai pobl angen offer ychwanegol a mwy o le i ganiatáu iddyn nhw ddefnyddio’r toiled yn ddiogel a didrafferth.

̌Taro cydbwysedd rhwng y risgiau a’r buddiannau 

Pan fyddi’n cynllunio dy ardal chwarae, cofia ystyried sut y galli daro cydbwysedd rhwng y risgiau a’r buddiannau. Mae’r rhan fwyaf o blant a phlant yn eu harddegau’n mwynhau chwarae anturus, cyffrous gyda rhywfaint o risg.

Rydym yn gwybod bod plant angen profi rhywfaint o risg - mae’n eu helpu i brofi eu cyraeddiadau a dysgu sut i reoli risg. Rydym yn gwybod hefyd, y gall cyflwyno rhywfaint o risg mewn ardal chwarae stopio plant rhag teimlo’r angen i chwilio am risg mewn mannau eraill, llai priodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw ardal chwarae’n gosod plant mewn perygl annerbyniol o ddioddef niwed difrifol.

Gweithwyr chwarae

Gall gweithwyr chwarae helpu plant i gael llawer allan o ofod chwarae. Gall oedolion medrus sy’n deall chwarae helpu gyda chwarae, cyflwyno deunyddiau chwarae a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cynnwys, Mae’n syniad da i gynnwys gweithwyr chwarae yn dy brosiect a dy gynlluniau codi arian.