Bydd rhieni ac oedolion eraill yn poeni am amrywiol bethau pan fyddan nhw’n datblygu neu’n darparu ardaloedd chwarae – ac mae’n profiad ni’n dangos nad oes angen iddyn nhw. Dyma rai o’r atebion yr ydym wedi dod ar eu traws.

‘Fe ddylen ni berswadio plant yn eu harddegau i beidio dod i fannau chwarae’

Mae’n naturiol y bydd gan blant lleol yn eu harddegau ddiddordeb mewn man chwarae newydd yn eich cymuned, ac efallai y byddan nhw am gymdeithasu yno. Er mwyn gwneud i hyn weithio cystal â phosibl, cofia gynnwys plant yn eu harddegau yn y broses ddylunio fel ei fod yn cynnwys rhywbeth sy’n dda iddyn nhw hefyd.

‘Mae graffiti yn arwydd o fandaliaeth’

Mae graffiti yn rhan o ddiwylliant plant yn eu harddegau. Mae’n ffordd y byddan nhw’n dangos perchnogaeth o leoliad, felly fe allet ei ystyried fel arwydd o fan chwarae llwyddiannus sy’n gweithio i bob oedran. Mae mannau chwarae ar gyfer beiciau, sgwteri a sglefrfyrddau yn debygol iawn o ddenu graffiti. Mae’r un peth yn wir am offer chwarae arall y bydd plant yn eu harddegau’n eu defnyddio.

Weithiau defnyddir waliau graffiti fel ateb, ond dydyn nhw ddim yn dueddol o weithio yn y tymor hir. Mae’n well gan blant yn eu harddegau tagio pethau sy’n bwysig iddyn nhw (er enghraifft siglenni, rampiau a llochesi), yn hytrach na wal blaen.

‘Mae rhaid inni godi ffens fetel o amgylch man chwarae - mae’n ofynnol dan y ddeddf’

’Dyw hi dim yn orfodol i osod unrhyw fath o ffens o amgylch man chwarae. Mae’r rhesymau y gallai pobl ddewis amgylchynu man chwarae gyda ffens neu ffin arall yn cynnwys:

  • Mae ar gyfer plant ifanc ac fe fyddai’n beryglus pe bae nhw’n gallu rhedeg i ffwrdd
  • Mae’n agos i ddŵr neu ffordd brysur
  • Maen nhw am atal cŵn rhag dod i mewn.

Ond mae plant ifanc yn debygol o gael eu goruchwylio gan riant. Ac fel arfer bydd plant am adael ardal chwarae oherwydd bod pethau eraill y tu allan iddi yn ymddangos yn fwy deniadol. Os llwyddi di i wneud yr ardal chwarae mor ddiddorol ac amrywiol â’r amgylchedd o’i chwmpas bydd y plant am aros.

Os penderfyni di godi ffens neu ffin o amgylch dy ofod chwarae, ceisia ddewis deunyddiau sy’n cydweddu â’r amgylchedd, neu sy’n ei wneud yn fwy chwareus. Mae enghreifftiau da yn cynnwys ffensys pren, waliau y gellir eu dringo, a chloddiau.

‘Mae tywod yn achosi problemau gyda chŵn’

Oni bai fod problemau eisoes gyda baw cŵn yn yr ardal, mae’n annhebyg y bydd tywod yn denu cŵn o’r newydd. Fodd bynnag, os oes tywod ar y safle, bydd angen i’w gribinio a’i wirio fod yn rhan o’r broses cynnal a chadw rheolaidd.

Mae’r mwyafrif o berchnogion cŵn yn gyfrifol. Os oes problem, gan amlaf nifer fechan o berchnogion fydd yn ei achosi, felly cofia eu targedu nhw:

  • Gofyn i’r plant ddylunio arwyddion ‘Dim Baw Cŵn’
  • Gofyn i dy warden cŵn lleol am gymorth.

‘Fe ddylen ni annog oedolion eraill i beidio â dod i fannau chwarae’

Mae mannau chwarae yn fannau cymunedol ac fe ddylem eu rhannu. Bydd hyn yn gweithio’n dda i bawb:

  • Bydd rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau a mam-guod a thad-cuod, yn mwynhau cael gofod y gellir ei rannu a ble y gallan nhw gwrdd ag oedolion eraill a ble y gall plant chwarae.
  • Bydd y plant yn elwa hefyd, gan y bydd oedolion gerllaw i helpu os byddan nhw’n brifo, neu os oes unrhyw fwlio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.