Magu plant yn chwareus Cefnogi arddegwyr Helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostynt eu hunain Yn aml iawn bydd arddegwyr yn cael eu trin gydag amheuaeth pan fyddan nhw’n hongian o gwmpas neu’n gwneud pethau bob dydd, fel mynd i’r siopau. Mae’n wych os yw arddegwyr yn teimlo fel eich bod chi ar eu hochr nhw ac yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw. Mae’n beth da hefyd os oes ganddyn nhw’r hyder a’r sgiliau i sefyll i fyny drostynt eu hunain. Mae’r rhain yn bethau pwysig i’w defnyddio mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd fel cymdeithasu, cwrdd â phobl newydd a mynd i leoedd newydd. Pan fyddwch chi’n sefyll i fyny dros arddegwyr a dangos eich bod chi ar eu hochr nhw rydych yn modelu ymddygiadau y gallan nhw eu defnyddio hefyd. Fe allan nhw ddysgu sut i fod yn bendant ac yn barchus. Efallai y bydd y cynghorion canlynol i helpu arddegwyr yn ddefnyddiol iawn i oedolion hefyd. Pum ffordd i helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostynt eu hunain Modelu ymddygiad sy’n helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostynt eu hunain: Gwrando ar wahanol safbwyntiau. Bod yn gwrtais. Amddiffyn camgymeriad gonest pan fydd rhywun wedi gwneud camgymeriad. Bod yn barod i ymddiheuro. Bod yn fodlon camu’n ôl oddi wrth sefyllfaoedd. Bod yn barod i dderbyn y gallwch fod â gwahanol safbwyntiau a dal i hoffi neu barchu eich gilydd. Eu helpu i sefyll i fyny dros fater neu achos sy’n bwysig iddyn nhw: Eu hannog i chwilio am ffeithiau neu wybodaeth gefndir. Eu cyfeirio at fudiadau sy’n cefnogi arddegwyr. Eu hannog i archwilio hawliau dynol. Eu hatgoffa am wirio ffeithiau a gochel rhag ffug-wybodaeth. Eu hannog i ddysgu oddi wrth ymgyrchoedd eraill sydd wedi gweithio’n dda. Gallai’r rhain fod yn ymgyrchoedd lleol neu ryngwladol adnabyddus. Ffyrdd ymarferol, syml i gadw trafodaethau ar nodyn cadarnhaol: Cadwch eich llais ar eich lefel arferol, neu ychydig yn dawelach nag arfer, os bydd y person arall yn gweiddi. ‘Helo’ ddylai fod eich gair cyntaf, hyd yn oed os yw’r person arall wedi dechrau bloeddio. Gwenwch a byddwch yn gyfeillgar. Ceisiwch ddweud ‘Fyddech chi’n fodlon…?’ os hoffech awgrymu rywbeth. Er enghraifft, ‘Fyddech chi’n fodlon edrych ar y syniad yma?’ Dod i adnabod y gymuned: Ceisiwch annog arddegwyr i ddysgu am rolau pobl yn y gymuned, er enghraifft, cynghorwyr, wardeiniaid cymunedol, yr heddlu. Awgrymwch iddynt ddysgu am y ffyrdd y gall eu llais gael ei glywed yn y gymuned fel mynychu cyfarfodydd, ymateb i holiaduron ac ymgynghoriadau neu sefyll mewn etholiad os ydyn nhw’n ddigon hen. Cyfrannu at y gymuned, er enghraifft trwy wirfoddoli mewn digwyddiadau unigol, fel casglu sbwriel neu weithgareddau mwy rheolaidd. Dylech eu hannog i ofalu am eu hunain fel eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus a gwydn i sefyll i fyny drostynt eu hunain ac eraill: Chwiliwch am gyfleoedd i rannu a sgwrsio am werthoedd – beth yw’r pethau sydd o bwys i chi ac iddyn nhw? Atgoffwch nhw am y pethau sy’n eu cadw’n iach – boed hynny’n fynd am dro, bwyta prydau iach neu gael digon o gwsg. Ceisiwch eu hannog i feddwl trwy’r hyn y gallant ei wneud i asesu sefyllfaoedd ac osgoi cael eu hunain i helynt. Cofiwch fod cael hwyl a digon o chwerthin, cymdeithasu a hongian o gwmpas yn dda i chi. Ceir awgrymiadau i’ch helpu i sefyll i fyny dros arddegwyr ar y tudalennau hyn: Cadw cefn arddegwyr Cynnwys plant ac arddegwyr yn dy ymgyrch chwarae