Blog Blog Plentyndod Chwareus Syniadau chwarae yn yr awyr agored Mae digon o ffyrdd syml a chwareus y galli di a dy blant gael hwyl tu allan yn yr awyr iach, heb orfod gwario llawer o arian. I dy helpu i wneud y mwyaf o dy amser chwarae, dyma 36 o’n hoff syniadau, wedi’u rhannu ar draws chwe lle poblogaidd yn yr awyr agored i ymweld â nhw a'u mwynhau. Chwe pheth i'w gwneud yn dy ardd: creu cwrs rhwystrau cael cystadleuaeth ddawnsio adeiladu gwesty bygiau chwarae ‘Faint o’r gloch, Mistar Blaidd?’ creu trwythau cael picnic tedis Chwe pheth i'w gwneud ar y traeth: adeiladu cestyll neu gerfluniau tywod casglu cregyn, cerrig mân neu wydr môr diddorol chwarae siapiau O X O yn y tywod gwneud angylion tywod mynd i’r pyllau glan môr a chwilio am greaduriaid bach mynd i badlo Chwe pheth i'w gwneud ar y palmant tu allan i dy gartref: tynnu llun â sialc a chwarae ’sgots peintio gyda dŵr gan ddefnyddio brwshys neu sbyngau llunio map a gwneud helfa drysor chwarae Mochyn yn y canol rasio awyrennau papur cael brwydr ddŵr Chwe pheth i'w gwneud yn dy fan gwyrdd neu dy barc lleol: chwarae tag chwilio am fwystfilod bach cael ras whilber/ferfa (gochela rhag baw ci!) chwarae ‘mi wela i, â’m llygad bach i...’ creu dy Gemau Olympaidd dy hun chwarae cuddio Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded drwy goetir: chwilio am adar cofleidio coeden (rho cwtsh bach i fyd natur!) cyfri'r synau (gorweddwch ar y ddaear gyda’ch lygaid ar gau a chyfrifwch faint o wahanol synau y gallwch chi eu clywed) gwneud cuddfan casglu brigau, dail a cherrig a chreu celf natur dringo coeden Chwe pheth i'w gwneud ar daith gerdded ar hyd yr afon: chwarae brigau’n rasio dros unrhyw bontydd rwyt ti’n eu croesi gwneud helfa sborion bwydo hwyaden (dim bara, os gweli di’n dda – galli di gynnig letys, corn melys, pys wedi'u rhewi, ceirch, hadau neu reis) creu cwch allan o frigau a dail chwilio am bysgod sblasio mewn pyllau Lawrlwytha'r rhestr Syniadau chwarae yn yr awyr agored. Cymryd rhan Rydym am glywed am hoff syniadau chwarae dy blant – rhanna gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #HafOChwarae.