Magu plant yn chwareus Cefnogi arddegwyr Mannau i hongian o gwmpas Mae arddegwyr yn wych am ddefnyddio gwahanol fannau i gymdeithasu. Yn aml, fe fyddan nhw’n dod o hyd i leoedd oedd ddim wedi’u bwriadu ar gyfer hongian o gwmpas ond sy’n gweddu i’w anghenion nhw. Gallai hyn fod adref, ond bydd arddegwyr yn aml yn gwneud defnydd gwych o fannau cyhoeddus fel strydoedd, canol trefi, sgwariau, corneli, parciau, y tu allan i siopau a mannau ymgasglu eraill. Mae mannau eraill y gallai arddegwyr eu dewis, os ydynt ar gael, yn cynnwys: clybiau a darpariaeth ieuenctid meysydd chwarae antur parciau sglefrfyrddio gweithgareddau yn y gymuned a gefnogir gan weithwyr ieuenctid. Waeth os ydyn nhw mewn darpariaeth ieuenctid neu fannau cyhoeddus, bydd arddegwyr yn aml yn chwilio am: breifatrwydd – mannau sy’n ddigon pell o olwg oedolion i beidio cael eich styrbio neu eich barnu diogelwch – mannau ble maen nhw’n teimlo y gallan nhw ymlacio heb gael eu tarfu neu eu bygwth newydd-deb – mannau ble mae pethau sy’n hwyl i’w gwneud, fel chwarae yn yr afon neu ddringo pont gwylfâu – mannau ble gallan nhw weld beth sy’n digwydd a phobl yn mynd a dod rhyddid – i fod yn nhw eu hunain ac ymddwyn fel y mynnant pethau y maen nhw eu hangen – seti, cysgod, goleuo, cynhesrwydd, wifi. Yn bennaf oll, mae arddegwyr yn cael eu denu at fannau ble mae pobl eraill i hongian o gwmpas neu ryngweithio gyda nhw. Efallai y byddan nhw’n symud o gwmpas o le i le a chysylltu a rhyngweithio gyda grwpiau eraill. Pan maen nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n ennill profiad cymdeithasol, sgiliau a dealltwriaeth. Gall cael lleoedd i hongian o gwmpas a chymdeithasu roi ymdeimlad o berthyn i arddegwyr. Gall teimlo bod croeso iddyn nhw gefnogi eu lles cymdeithasol ac emosiynol. Effaith arddegwyr yn hongian o gwmpas Gall arddegwyr ddod ag egni a bywyd i fannau diflas sy’n cael fawr o ddefnydd, er enghraifft pan fyddan nhw yn: sglefrfyrddio gwisgo’r ffasiwn ddiweddaraf chwarae cerddoriaeth chwarae gemau anffurfiol. Yn aml, bydd gan arddegwyr lai o ddewis o fannau i dreulio amser nag oedolion a phlant ifanc, ac efallai y byddan nhw’n teimlo nad oes croeso iddyn nhw mewn rhai mannau. Gallai hyn ymwneud â: helynt go iawn, taflu sbwriel, niwsans oherwydd sŵn neu greu rhwystr ar balmentydd pobl yn teimlo bod grwpiau o arddegwyr yn fygythiol pobl, yn syml iawn, ddim yn bod yn oddefgar iawn ohonyn nhw. Mae’n bosibl hefyd y bydd arddegwyr yn teimlo eu bod yn cael eu bygwth gan arddegwyr eraill, gan oedolion neu’r amgylchedd. Pethau i siarad amdanyn nhw Mae gan arddegwyr gymaint o hawl â phawb arall i dreulio amser mewn mannau cyhoeddus. Fe ddylen ni gyd ddisgwyl i bobl drin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth waeth os ydyn nhw’n blant, yn arddegwyr neu’n oedolion. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i gael sgyrsiau gyda dy blentyn yn ei arddegau am: sut y gall iaith ac ymddygiad effeithio ar bobl eraill pwy arall allai fod eisiau defnyddio’r gofod ar yr un pryd sut i fod yn ystyriol o’ch gilydd pa opsiynau sydd ganddyn nhw os fyddan nhw’n teimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus sut y gallen nhw siarad gydag arddegwyr eraill. Ar ein tudalen cefnogi arddegwyr, cei hyd i awgrymiadau ar sut i sefyll i fyny dros arddegwyr yn y gymuned ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym dudalen hefyd ar helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostyn nhw eu hunain. Cadw mewn cysylltiad Pan fydd dy blentyn yn ei arddegau’n dechrau treulio amser yn hongian o gwmpas efallai yr hoffet feddwl am ffyrdd i gadw mewn cysylltiad. Gall hyn dawelu dy feddwl di a dy arddegwyr. Mae gan lawer o arddegwyr ffôn all helpu gyda chadw mewn cysylltiad. Gallwch rannu lleoliadau rhwng ffonau neu ar apiau. Dyma ambell beth i’w ystyried: Cofia nad ydi lleoliad y ffôn yn golygu mai dyna ble maen nhw! Mae angen i arddegwyr wybod bod ganddyn nhw a phobl eraill hawl i breifatrwydd – dydyn ni ddim am iddyn nhw dyfu i fyny’n meddwl bod gan bartneriaid, neu bobl eraill, hawl i wybod ble maen nhw trwy’r amser. Os doi di i ddibynnu ar wirio lleoliadau ar ffonau clyfar gall dy wneud yn nerfus pan na alli di gysylltu gyda nhw. Gall y rhesymau fod yn syml iawn, er enghraifft efallai nad oes signal neu fod batri’r ddyfais wedi marw. Galli di a dy blentyn yn ei arddegau siarad trwy a chytuno ar bethau allweddol gyda’ch gilydd, fel: trefnu i roi gwybod iti os bydd am gyrraedd adre’n hwyr sut allan nhw gadw mewn cysylltiad os byddan nhw allan am amser hir, er enghraifft, fe allan nhw gysylltu trwy neges testun neu alwad ar amserau penodol trefnu y byddi di mewn man penodol ar amser penodol er mwyn cysylltu gyda nhw gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod os ydyn nhw mewn helynt neu mewn perygl, y byddai’n well gennyt ti iddyn nhw gysylltu gyda thi.