Telerau ac amodau defnyddio’r wefan

  1. Cyflwyniad

1.1    Bydd y telerau ac amodau hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan.

1.2    Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn; gan hynny, os ydych yn anghytuno gyda’r telerau ac amodau hyn neu gydag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

1.3    Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis; trwy ddefnyddio ein gwefan neu gytuno â’r telerau ac amodau hyn, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis yn unol â thelerau ein Polisi Preifatrwydd.

  1. Rhybudd hawlfraint

2.1    Hawlfraint (c) 2018 Chwarae Cymru.

2.2    Yn amodol ar ofynion diamwys y telerau ac amodau hyn:

(a)    ni, ynghyd â’n trwyddedwyr, sydd berchen ar ac sy’n rheoli holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan; a

(b)    cedwir yr holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan.

  1. Trwydded i ddefnyddio’r wefan

3.1    Gallwch:

(a)    edrych ar dudalennau o’n gwefan mewn porwr gwe;

(b)    lawrlwytho tudalennau o’n gwefan er mwyn eu cadw dros dro mewn porwr gwe;

(c)    argraffu tudalennau oddi ar ein gwefan;

(ch)  ffrydio ffeiliau sain a fideo o’n gwefan; ac yn amodol ar ofynion eraill y telerau ac amodau hyn.

3.2   Cewch ddefnyddio ein gwefan at eich dibenion personol a busnes eich hun yn unig, ac ni ddylech ddefnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion eraill. Ym mhob achos, dylid cydnabod mai Chwarae Cymru yw ffynhonnell y deunydd ar y copi; dylid cadw pob hawlfraint a hysbysiad patent yn ei gyfanrwydd, ac atgynhyrchu ein cyfeiriad a’n manylion cyswllt.

3.3    Ar wahân i’r hyn gaiff ei ganiatáu yn ffurfiol gan y telerau ac amodau hyn, ni ddylech olygu nac addasu mewn unrhyw fodd unrhyw ddeunydd ar ein gwefan.

3.4    Oni bai eich bod yn berchen ar neu’n rheoli’r hawliau perthnasol yn y deunydd, ni ddylech:

(a)    ailgyhoeddi deunydd oddi ar ein gwefan heb gydnabod Chwarae Cymru fel perchennog yr hawlfraint (yn cynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall);

(b)    gwerthu, rhentu na is-drwyddedu deunydd oddi ar ein gwefan;

(c)    camddefnyddio deunydd o’n gwefan at ddiben masnachol.

3.5    Serch Adran 3.5, cewch ailddosbarthu ein hadnoddau y gellir eu lawrlwytho ar ffurf copi caled neu electronig ymysg eich teulu, ffrindiau a’ch cydweithwyr.

3.6    Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i adrannau o’n gwefan, neu’n wir i’r wefan gyfan, fel y gwelwn yn dda; ni ddylech osgoi neu fynd heibio, na cheisio osgoi neu fynd heibio, unrhyw gamau cyfyngu mynediad ar ein gwefan.

  1. Defnydd derbyniol

4.1    Ni ddylech:

(a)    ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd na chymryd unrhyw gamau sy’n achosi, neu allai achosi, difrod i’r wefan neu allai amharu ar berfformiad, argaeledd neu hygyrchedd y wefan;

(b)    defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon, sy’n groes i’r gyfraith, yn dwyllodrus neu niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgarwch sy’n anghyfreithlon, sy’n groes i’r gyfraith, yn dwyllodrus neu niweidiol;

(c)    defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, lletya, darlledu, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig â) unrhyw ysbïwedd, feirws cyfrifiadurol, ceffyl pren Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall;

(ch)  cynnal unrhyw weithgarwch casglu data systematig neu awtomatig (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, crafu, cloddio data, echdynnu data a medi data) ar neu mewn cysylltiad â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig ffurfiol;

(d)    agor na rhyngweithio mewn unrhyw fodd gyda’n gwefan gan ddefnyddio unrhyw robot, corryn neu ddull awtomatig arall, ar wahân at ddiben mynegeio peiriant chwilio;

(dd)  defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan ar gyfer unrhyw weithgarwch marchnata uniongyrchol (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, marchnata trwy e-bost, marchnata SMS, telefarchnata a marchnata uniongyrchol).

4.2    Ni ddylech ddefnyddio data a gasglwyd o’n gwefan i gysylltu gydag unigolion, cwmnïau neu bersonau neu endidau eraill.

4.3    Dylech sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwch i ni trwy ein gwefan, neu mewn perthynas â’n gwefan, yn wir, yn gywir, yn gyfredol, yn gyflawn ac nad yw’n gamarweiniol.

  1. Eich cynnwys chi: trwydded

5.1    Yn y telerau ac amodau hyn, mae "eich cynnwys chi" yn golygu’r holl waith a deunyddiau (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, testun, graffeg, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo, deunydd clyweledol, sgriptiau, meddalwedd a ffeiliau) y byddwch chi’n eu cyflwyno i ni neu i’n gwefan i’w storio neu eu cyhoeddi ar, i’w prosesu gan, neu i’w darlledu trwy, ein gwefan.

5.2    Rydych yn rhoi inni drwydded fyd-eang, di-alw’n-ôl, anghyfyngedig, di-freindal i ddefnyddio, atgynhyrchu, storio, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys mewn unrhyw gyfryngau cyfredol neu newydd.

5.3    Rydych yn rhoi inni’r hawl i is-drwyddedu’r hawliau a drwyddedir dan Adran 9.2.

5.4    Rydych yn rhoi inni’r hawl i ddwyn achos am dorri’r hawliau a drwyddedir dan Adran 9.2.

5.5    Rydych, trwy hyn, yn ildio eich holl hawliau moesol yn eich cynnwys i’r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith gymwys; ac rydych yn gwarantu ac yn mynegi bod pob hawl moesol arall yn eich cynnwys wedi eu hildio i’r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith gymwys.

5.6    Yn ddiymrwymiad i’n hawliau eraill o dan y telerau ac amodau hyn, os byddwch yn torri unrhyw ddarpariaeth o’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd neu os byddwn yn amau, yn rhesymol, eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, gallwn ddileu, datgyhoeddi neu olygu unrhyw elfen neu’r cyfan o’ch cynnwys.

  1. Eich cynnwys chi: rheolau

6.1    Rydych yn gwarantu ac yn mynegiy bydd eich cynnwys yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn.

6.2    Ni ddylai eich cynnwys fod yn groes i’r gyfraith neu’n anghyfreithlon, ni ddylai dresmasu ar hawliau cyfreithiol unrhyw berson, ac ni ddylai allu peri i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn erbyn unrhyw berson (ym mhob achos mewn unrhyw awdurdodaeth ac o dan unrhyw gyfraith gymwys).

6.3    Ni ddylai eich cynnwys, a’r defnydd o’ch cynnwys gennym ni yn unol â’r telerau ac amodau hyn:

(a)    fod yn sarhaus neu’n fwriadol gamarweiniol;

(b)    fod yn anllad neu’n anweddus;

(c)    tresmasu ar unrhyw hawlfraint, hawl foesol, hawl cronfa ddata, hawl nod masnach, hawl dylunio, hawl i gyflwyno, neu hawl eiddo deallusol arall;

(ch)  tresmasu ar unrhyw hawlcyfrinachedd, hawl preifatrwydd neu hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data;

(d)    creu cyngor diofal neu gynnwys unrhyw ddatganiad esgeulus;

(dd)  creu symbyliad i gyflawni trosedd, cyfarwyddiadau ar gyfer cyflawni trosedd neu gymell gweithgarwch troseddol;

(e)    achosi dirmyg llys, neu dorri unrhyw orchymyn llys;

(f)    torri’r ddeddf casineb hiliol a chrefyddol neu wahaniaethu;

(ff)   torri’r ddeddf cyfrinachau swyddogol;

(g)    torri unrhyw rwymedigaeth gytundebol sydd arnoch i unrhyw berson;

(ng)  darlunio trais mewn modd echblyg, graffig neu ddireswm;

(h)    fod yn gelwyddog, anwireddus, anghywir neu’n gamarweiniol;

(i)    cynnwys neu greu unrhyw gyfarwyddiadau, cyngor neu wybodaeth arall y gellid gweithredu arno ac allai, o weithredu arno, achosi salwch, anaf neu farwolaeth, neu unrhyw golled neu ddifrod arall;

(j)    cael ei ystyried yn sbam;

(l)    bod yn annymunol, camarweiniol, twyllodrus, bygythiol, difrïol, aflonyddol, gwrthgymdeithasol, atgas, gwahaniaethol neu ymfflamychol; neu

(ll)    beri annifyrrwch, anhwylustod neu bryder diangen i unrhyw berson.

6.4    Mae rhaid i’ch cynnwys fod yn briodol, yn foesgar a chwaethus, a chyd-daro gyda safonau cwrteisi ac ymddygiad rhyngrwyd cyffredinol.

6.5    Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan i gysylltu gydag unrhyw wefan neu dudalen we sy’n cynnwys deunydd fyddai, pe bae’n cael ei bostio ar ein gwefan, yn torri darpariaethau’r telerau ac amodau hyn.

6.6    Ni ddylech gyflwyno i’n gwefan unrhyw ddeunydd sydd, neu sydd wedi bod, yn destun unrhyw weithrediadau cyfreithiol arfaethedig neu wirioneddol neu gŵyn arall tebyg.

  1. Adrodd am gamddefnydd

7.1    Os dysgwch chi am unrhyw ddeunydd neu weithgarwch anghyfreithlon ar ein gwefan, neu unrhyw ddeunydd neu weithgarwch sy’n torri’r telerau ac amodau hyn, cofiwch roi gwybod inni.

7.2    Gallwch ein hysbysu am unrhyw ddeunydd neu weithgarwch o’r fath trwy e-bostio’r Rheolwr Cyfathrebiadau.

  1. Gwarantiadau cyfyngedig

8.1    Nid ydym yn gwarantu nac yn mynegi:

(a)    cyflawnrwydd na chywirdeb y wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan;

(b)    bod y deunydd ar ein gwefan wedi ei ddiweddaru; neu

(c)    y bydd y wefan neu unrhyw wasanaeth ar y wefan yn parhau i fod ar gael.

8.2    Rydym yn cadw’r hawl i ddirwyn i ben neu i newid unrhyw elfen neu’r cyfan o’n gwasanaethau gwefan, ac i stopio cyhoeddi ein gwefan, ar unrhyw adeg fel y barnwn yn ddoeth heb rybudd nac eglurhad; ac, ar wahân i’r graddau gwahanol a nodir yn blaen yn y telerau ac amodau hyn, ni fydd gennych hawl i dderbyn unrhyw iawndal neu daliad arall os caiff unrhyw elfen o’n gwasanaethau gwefan eu dirwyn i ben neu eu newid, neu os byddwn yn stopio cyhoeddi’r wefan.

8.3    Rydym yn eithrio, i’r raddfa eithaf a ganiateir gan gyfraith gymwys ac yn destun i Adran 9.1, bob cynrychiolaeth a gwarantiadau sy’n berthnasol i gynnwys y telerau ac amodau hyn, ein gwefan a’r defnydd o’n gwefan.

  1. Cyfyngiadau ac eithriadau ar atebolrwydd

9.1    Ni fydd unrhyw elfen o’r telerau ac amodau hyn yn:

(a)    cyfyngu neu’n eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod;

(b)    cyfyngu neu’n eithrio unrhyw atebolrwydd am dwyll neu gamliwio twyllodrus;

(c)    cyfyngu unrhyw atebolrwyddmewn unrhyw fodd na chaniateir o dan gyfraith gymwys: nac yn

(ch)  eithrio unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio o dan gyfraith gymwys.

9.2    Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau ar atebolrwydd a amlinellwyd yn yr Adran 9 yma ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn:

(a)    yn destun i Adran 9.1; ac

(b)    yn rheoli pob atebolrwydd sy’n codi o dan y telerau ac amodau hyn neu sy’n berthnasol i gynnwys y telerau ac amodau hyn, yn cynnwys atebolrwydd sy’n codi mewn cytundeb, mewn camwedd (yn cynnwys esgeulustod) ac am dordyletswydd statudol, ar wahân ac i’r graddau a fynegir yn wahanol, yn ffurfiol, yn y telerau ac amodau hyn.

9.3    I’r graddau bod ein gwefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar ein gwefan yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur.

9.4    Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion fydd yn codi o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

9.5    Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion busnes, yn cynnwys (yn ddigyfyngiad) colled neu ddifrod i elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchiad, arbedion arfaethedig, busnes, cytundebau, cyfleoedd masnachol neu ewyllys da.

9.6    Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw ddata, cronfa ddata neu feddalwedd a gollir neu a lygrir.

9.7    Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.

9.8    Rydych yn derbyn bod gennym fuddiant mewn cyfyngu atebolrwydd personol ein swyddogion a’n cyflogai ac, o ystyried y buddiant hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebolrwydd cyfyngedig; rydych yn cytuno na wnewch ddwyn unrhyw hawliad yn bersonol yn erbyn ein swyddogion neu ein cyflogai mewn perthynas ag unrhyw golledion y byddwch yn eu dioddef mewn cysylltiad â’r wefan neu’r telerau ac amodau hyn (ni fydd hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu neu’n eithrio atebolrwydd yr endid atebolrwydd cyfyngedig ei hun am weithredoedd a diffygion ein swyddogion a’n cyflogai).

  1. Indemniad

10.1  Rydych, trwy hyn, yn ein hindemnio ni, ac yn addo i barhau i’n hindemnio, yn erbyn unrhyw a phob colledion, difrod, costau, atebolrwydd a threuliau (yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, dreuliau cyfreithiol ac unrhyw symiau a delir gennym ni i drydedd blaid fel taliad am hawliad neu achos llys) gaiff eu hachosi neu y byddwn yn eu dioddef ac sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’ch defnydd chi o’n gwefan neu unrhyw doriad gennych chi o unrhyw ddarpariaeth o’r telerau ac amodau hyn.

  1. Torri’r telerau ac amodau hyn

11.1  Heb ymrwymiad i’n hawliau eraill o dan y telerau ac amodau hyn, os byddwch yn torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, neu os byddwn yn amau’n rhesymol eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw fodd, gallwn:

(a)    anfon un neu fwy o rybuddion ffurfiol atoch;

(b)    blocio cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i’n gwefan;

(c)    cysylltu gydag unrhyw un neu bob un o’ch darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a gofyn iddynt flocio eich mynediad i’n gwefan;

(ch)  dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn, boed am dor-cytundeb neu fel arall.

11.2  Ble byddwn yn blocio eich mynediad i’n gwefan neu i ran o’n gwefan, ni ddylech gymryd unrhyw gamau i osgoi ataliad neu waharddiad neu flocio o’r fath (yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, greu a / neu ddefnyddio cyfrif gwahanol).

  1. Gwefannau trydedd blaid

12.1  Mae ein gwefan yn cynnwys hyperddolenni i wefannau eraill sy’n berchen i ac sy’n cael eu gweithredu gan drydedd blaid; nid yw hyperddolenni o’r fath yn argymhellion.

12.2  Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau trydedd blaid a’u cynnwys ac, yn unol ag Adran 13.1, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod allai godi o ganlyniad i’ch defnydd ohonynt.

  1. Nodau masnach

13.1  Mae ein logos a’n nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig eraill yn nodau masnach sy’n berchen i ni; nid ydym yn caniatáu ichi ddefnyddio’r nodau masnach hyn, a gallai defnydd o’r fath gael ei ystyried yn dresmasiad ar ein hawliau.

13.2  Mae’r nodau masnach neu’r nodau gwasanaeth trydedd blaid cofrestredig ac anghofrestredig a welir ar ein gwefan yn berchen i’w perchnogion priodol ac, oni nodir yn wahanol yn y telerau ac amodau hyn, nid ydym yn cymeradwyo ac nid ydym yn gysylltiedig gydag unrhyw un o berchnogion unrhyw hawliau o’r fath ac, o ganlyniad, ni allwn roddi trwydded i arfer hawliau o’r fath.

  1. Cystadlaethau

14.1  O bryd i’w gilydd gallwn gynnal cystadlaethau, loterïau am ddim a / hyrwyddiadau eraill ar ein gwefan.

14.2  Bydd cystadlaethau’n destun telerau ac amodau eraill (a gyhoeddir fel bo’n briodol).

  1. Amrywio

15.1  Gallwn adolygu’r telerau ac amodau hyn o dro i dro.

15.2  Bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd o’n gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau ac amodau diwygiedig ar y wefan, ac rydych trwy hyn yn ildio unrhyw hawl allai, fel arall, fod gennych i gael eich hysbysu am, neu i gydsynio â, diwygio’r telerau ac amodau hyn.

15.3  Os ydych wedi rhoi eich cytundeb diamwys i’r telerau ac amodau hyn, fe ofynnwn am eich cytundeb diamwys i unrhyw ddiwygiad o’r telerau ac amodau hyn; ac os na roddwch eich cytundeb diamwys i’r telerau ac amodau diwygiedig o fewn cyfnod a benodir gennym ni, byddwn yn analluogi neu’n dileu eich cyfrif ar y wefan, a bydd rhaid ichi stopio defnyddio’r wefan.

  1. Aseiniad

16.1  Rydych, trwy hyn, yn cytuno y gallwn aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall gyda’n hawliau a / neu ein rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.

16.2  Ni chewch, heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall gydag unrhyw un o’ch hawliau a / neu rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.

  1. Toradwyedd

17.1  Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn pennu bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon ac / neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn dal i fod yn weithredol.

17.2  Pe bae unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon ac / neu anorfodadwy o’r telerau ac amodau hyn yn gyfreithlon neu’n orfodadwy pe bae rhan ohoni wedi ei dileu, ystyrir bod y rhan honno wedi ei dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau i fod yn weithredol.

  1. Hawliau trydedd blaid

18.1  Mae cytundeb o dan y telerau ac amodau hyn er budd i ni ac i chi, ac ni fwriedir iddo fod o fudd na bod yn orfodadwy gan unrhyw drydedd blaid.

18.2  Nid yw arfer hawliau’r pleidiau o dan gytundeb o dan y telerau ac amodau hyn yn destun derbyn caniatâd unrhyw drydedd blaid.

  1. Y cytundeb cyflawn

19.1  Yn amodol ar Adran 9.1, mae'r telerau a’r amodau hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn creu’r cytundeb cyflawn rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan a bydd yn disodli pob cytundeb blaenorol rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan.

  1. Y gyfraith ac awdurdodaeth

20.1  Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli gan a’u dehongli’n unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

20.2  Bydd unrhyw ddadleuon sy’n berthnasol i’r telerau ac amodau hyn yn destun awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.

  1. Datgeliadau statudol a rheoliadol

21.1  Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru; cewch hyd i fersiwn ar-lein o’r gofrestr ar www.gov.uk/government/organisations/charity-commission, a’n rhif cofrestru yw 1068926.

21.2  Rydym yn atebol i gyfraith Cymru a Lloegr, a oruchwylir gan Gymru a Lloegr.

  1. Ein manylion

22.1  Mae’r wefan hon yn berchen i, ac yn cael ei gweithredu gan Chwarae Cymru.

22.2  Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru o dan rif cofrestru 3507258, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Nhŷ Parc, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AF.

22.3  Ein prif fan busnes yw Tŷ Parc, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AF

22.4  Gallwch gysylltu â ni:

(a)    trwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post uchod;

(b)    trwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan;

(c)    dros y ffôn, ar 02920 486050; neu

(d)    trwy ebost.