Mae pwysigrwydd chwarae plant yn cael ei gydnabod dros y byd i gyd. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn - sy’n rhestru hawliau pob plentyn a phlentyn yn ei arddegau - yn dweud (yn Erthygl 31) bod gan bob plentyn hawl i chwarae.
Mae’r confensiwn yma’n berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau, waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maent yn ei gredu. Felly, fel rhieni a gofalwyr, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod ein plant yn cael lle, amser a chwmni eraill i chwarae. Mae chwarae’n hawl i dy blentyn ble bynnag y maen nhw - gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol.
Bydd plant yn elwa fwyaf pan maen nhw’n gyfrifol am eu chwarae. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Bydd plant hefyd yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae:
Mae chwarae’n gwneud cyfraniad hanfodol i ddatblygiad dy blentyn – yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
Pan maen nhw’n chwarae, mae plant yn debyg o fod yn gorfforol egnïol – gan redeg, neidio, dawnsio, dringo, tyllu, codi, gwthio a thynnu.
Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn datrys problemau, yn dysgu geiriau newydd ac yn archwilio sut y mae pethau’n gweithio.
Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn gwneud ffrindiau, yn dadlau a dod yn ffrindiau eto, ac yn dysgu rhannu.
Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn profi pethau, yn creu pethau, yn defnyddio eu dychymyg, ac yn mynegi eu hunain.
Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn mynegi eu hunain. Yn aml, fe fyddan nhw’n teimlo’n hapus, ac fe fyddan nhw’n dod i delerau â gwahanol brofiadau. Mae hyn yn helpu plant i deimlo dan lai o straen.