“Dwi’n bôôôôred!” “Dwi’n bôôôôred!” Fel rhieni a gofalwyr, sawl gwaith ydyn ni’n debygol o glywed ein plentyn yn dweud hyn dros yr wythnosau nesaf?! Ar hyn o bryd, rydyn ni gyd yn cael ein cynghori i bellhau ein hunain yn gymdeithasol oddi wrth ein ffrindiau a’n teuluoedd. Ond ’does dim rhaid i bellhau cymdeithasol fod yn gyfnod trist a diflas! Mae digonedd o ffyrdd hwyliog ar gyfer chwarae yn ac o amgylch y cartref er mwyn cadw’r plant yn hapus a diddan. Dyma ein 35 syniad gorau ar gyfer chwarae adref: Rasys “ŵy” ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn). Actio stori allan o lyfr, fel Hwyl yn y Dwnjwn Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) - gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen Addurno canhwyllau Chwarae llif draws (Cat’s cradle) Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll) Gemau clapio Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast! Tynnu lluniau a lliwio i mewn Gwisgo i fyny Mae’r llawr yn lafa Mi welaf i, â’m llygad bach i… Sioe ffasiynau Chwarae cuddio Chwarae Sgots (Hopscotch) - creu’r grid gyda thâp ar lawr Modelu jync gydag eitemau tŷ heb fod yn rhy fawr Disgo yn y gegin Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardbord Creu cuddfannau Creu awyrennau papur Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach Cadeiriau cerddorol Cwrs rhwystrau - gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau, Ping-pong neu bêl foli gyda balŵn Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt Creu perfformiad Carreg / papur / siswrn Drymiau sosbannau ‘Simon says’ Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig) Pypedau sanau Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion Cerrig sarn gyda chlustogau Te parti / picnic dan do Helfa drysor Sawl un all eich teulu chi ei wneud? Mwy o syniadau chwarae Mae gennym hefyd rywfaint o syniadau ar gyfer chwarae poitshlyd: Paentio Creu ‘glŵp’ neu lysnafedd Creu a chwarae gyda thoes chwarae Creu swigod gyda gwellt yfed Creu cacennau mwd, swynion a phersawr. Mae bod yn boitshlyd yn rhan naturiol o blentyndod ond os oes gennych unrhyw bryderon, darllenwch ein cynghorion ar ddelio gyda chwarae poitshlyd! Pam fod chwarae’n bwysig Mae chwarae - y tu mewn a’r tu allan - yn dda i blant. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Yn ogystal, mae plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu: hunan-barch, dychymyg, creadigedd, cydsymudiad corfforol, hyder, canolbwyntio, sgiliau cyfathrebu, balans… ond yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl! Ymunwch yn yr hwyl Rydym yn paratoi ar gyfer adeg pan fydd rhaid i rieni a’u plant aros adref. Os hoffech chi fod yn rhan o’r hwyl a helpu teuluoedd eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn, anfonwch fideo atom ohonoch chi a’ch teulu yn rhannu eich syniadau chwarae dan do gorau neu, os hoffech fwy o wybodaeth, mae croeso ichi ein e-bostio. Hefyd, rhannwch eich syniadau chwarae gyda ni - tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a defnyddiwch #ProsiectChwarae! Gall 35 syniad chwarae dan do cael eu hargraffu a'u rhannu.