Mae ein ffilm newydd – Dyma pam mae chwarae mor bwysig – ar gael i'w gwylio ar-lein nawr.

Mae’r ffilm fer yn cynnwys plant o bob oedran, sy’n dweud wrthym beth mae chwarae’n ei olygu iddyn nhw. Mae’n dathlu chwarae ac yn cyfleu pam ei fod mor bwysig i ddatblygiad, iechyd, lles a hapusrwydd plant.

Wedi'i throsleisio gan yr actor Matthew Rhys, cafodd y ffilm ei chreu dros ddwy flynedd ar hyd a lled Cymru. O chwarae ar y stryd i iard yr ysgol, o’r ystafell fyw i’r iard gefn, mae'r ffilm yn dangos llawer o wahanol fathau o chwarae. Mae'n dangos sut mae plant yn rhyngweithio â'i gilydd ac â'u hamgylchedd trwy chwarae. Mae'r ffilm hefyd yn cynnwys cyfweliadau ag oedolion yn myfyrio ar eu hatgof cyntaf o chwarae a sut y gadawodd hynny ei ôl arnynt am weddill eu bywydau.

Comisiynwyd y ffilm i ddangos i rieni, gofalwyr ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd pa mor bwysig yw chwarae i fywydau plant yng Nghymru, a sut y gallwn ni i gyd gefnogi hynny. Gobeithiwn y bydd y ffilm yn helpu pawb i gydnabod a gwerthfawrogi na allai unrhyw beth fod yn bwysicach i fywydau ein plant na… chwarae.

Byddem wrth ein bodd petaset ti'n dweud wrth dy ffrindiau a dy deulu am y ffilm, a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol  – po fwyaf o bobl sy’n ei gweld y cryfaf yw ein neges am bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.