Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus Sut mae cymuned chwareus yn edrych? Ydi hi’n llawn o bethau i blant a phobl ifanc yn eu harddegau i’w gwneud - er enghraifft, cynlluniau chwarae, grwpiau ieuenctid, ardaloedd chwarae a chwarae meddal, a chlybiau ar ôl ysgol? Ydi hi’n le ble mae plant a’u rhieni’n teimlo ei bod hi’n ddiogel i dreulio amser y tu allan – i gwrdd â ffrindiau, chwilota, mynd ar feic, dringo coed, adeiladu cuddfan? Gall cymuned chwareus fod yn gymysgedd o’r ddau. Mae’n le ble mae plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn teimlo eu bod yn perthyn – ble mae ganddyn nhw bethau i’w gwneud, a ble y gallan nhw chwarae’r tu allan a chymdeithasu’n ddiogel gyda’u ffrindiau. Sut all rhieni ac oedolion eraill wneud yn siŵr bod eu cymuned yn un chwareus? Mae cymuned chwareus yn golygu mwy na dim ond agor y drws a gadael i’r plant fynd allan. Mae llawer o bethau positif y gall oedolion eu gwneud i wneud eu cymdogaeth yn fwy chwareus. Dyma rai o’r pethau sydd gan gymunedau chwareus yn gyffredin: Mae’r rhieni, mam-guod, tad-cuod, neiniau a theidiau ac oedolion eraill yn adnabod ei gilydd, felly maen nhw’n teimlo ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw adael i’w plant chwarae allan. ’Does dim ots gan yr oedolion bod plant a phobl ifanc yn eu harddegau allan yn y gymuned. Mae’r oedolion yn gwybod bod chwarae’n bwysig iawn ar gyfer iechyd, datblygiad a hapusrwydd plant. Mae’r oedolion yn derbyn y gall plant a phobl ifanc yn eu harddegau sy’n chwarae allan yn eu cymuned fod yn swnllyd ac edrych yn anniben. Mae gan y plant a’r bobl ifanc yn eu harddegau ffyrdd o roi gwybod i’w rhieni ble y maen nhw a phryd y byddan nhw’n dod adref. Mae’r plant a’r bobl ifanc yn eu harddegau yn gwybod sut i groesi’r ffordd a symud o amgylch eu cymdogaeth yn ddiogel. Mae gan y plant a’r bobl ifanc yn eu harddegau fannau i gwrdd sy’n agos i’w cartrefi. Mae plant ac oedolion yn gallu cerdded a seiclo o amgylch y gymdogaeth, gan fod y traffig yn cael ei reoli. Mae gan y plant a’r bobl ifanc yn eu harddegau bethau i’w gwneud sy’n cael eu staffio gan oedolion ond sydd ddim yn rhy ffurfiol – fel cynllun chwarae neu grŵp ieuenctid. Gall Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant. Edrych ar ein cynghorion ar gyfer cefnogi plant i chwarae allan yn hyderus.